#
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
1. Cyflwyniad
Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy’n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys adrannau ar waith y Cynulliad a Llywodraeth Cymru; ar lefel yr UE; y DU; yr Alban ac Iwerddon. Y cyfnod a gaiff ei gwmpasu yw 13-27 Medi, er y cyfeirir at ddigwyddiadau diweddarach lle mae gwybodaeth ar gael ar adeg llunio’r drafft terfynol.
2. Datblygiadau yng Nghymru
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw prif bwyllgor y Cynulliad ar gyfer cydgysylltu gweithgareddau cysylltiedig â Brexit o ran gwaith y Pwyllgorau.
Dyma oedd sesiynau diweddaraf y Pwyllgor MADY:
§ 18 Medi: Digwyddiad preifat i randdeiliaid ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
§ 25 Medi: Sesiwn dystiolaeth gyda Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ar gynnydd o ran y trafodaethau ynghylch ymadawiad y DU â'r UE a goblygiadau Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ar Gymru.
Ar 27 Medi, cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Ddyfodol Polisi Rhanbarthol ac ymatebLlywodraeth Cymru iddo.
Mae gwybodaeth reolaidd am waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i’w gweld ar flog y Cynulliad: https://blogcynulliad.com/tag/ue/.
Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Mae’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cynnal ymgynghoriad ar y cyd ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
Cyhoeddir blogiau'r Gwasanaeth Ymchwil ar Pigion. Y blogiau Brexit diweddaraf yw Amcangyfrifo'r llinell amser ar gyfer Deddfwriaeth Brexit, Beth mae Bil yr UE (Ymadael) yn ei olygu i ddatganoli? Canllaw gweledol, a Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): Canllaw rhagarweiniol.
Eraill
19 Medi: Datganiad a Dadl ar Fil yr UE (Ymadael).
19 Medi: Datganiad a Dadl 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl'.
Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi ei adroddiadau ar Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru, a Dyfodol Polisïau Amaethyddol a Datblygu Gwledig yng Nghymru.
Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn ystyried y defnydd a wneir o gefnogaeth gan yr UE ac effaith Brexit fel rhan o'i ymchwiliad i Gwerthu Cymru i'r Byd.
Llywodraeth Cymru
12 Medi: Prif Weinidog Cymru yn cymryd cam i amddiffyn Cymru wedi Brexit. Heddiw mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi rhoi gwedd ffurfiol ar her Llywodraeth Cymru i Fil Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Llywodraeth wedi cynhyrchu Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Y casgliad yw bod ‘y memorandwm hwn yn nodi barn Llywodraeth Cymru am y gofyniad ar gyfer cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad mewn perthynas â Bil yr UE (Ymadael), ac yn cadarnhau na fyddwn mewn sefyllfa i argymell cydsynio oni bai bod y Bil yn cael ei ddiwygio i fynd i’r afael â’n pryderon’.
Newyddion
14 Medi: Datganiad CLA ar ymchwiliad Efra i fasnachu bwyd ar ôl Brexit.
15 Medi: Podlediad – Bil yr UE (Ymadael) a'r goblygiadau i Gymru – barn yr arbenigwyr (blogiau Brexit Cymru)
19 Medi: With or without you….? Bil yr UE (Ymadael), y gweinyddiaethau datganoledig a chydsyniad deddfwriaethol.
22 Medi: Datganiad y CLA ar gadarnhau bargen bondio dwy flynedd ar gyfer Brexit.
22 Medi: Ymateb UAC i Araith Florence y Prif Weinidog.
25 Medi: Hwb o £4.5m ar gyfer datblygu ynni llanw Môn (£4.2m gan yr UE).
3. Datblygiadau o'r UE
Y Cyngor Ewropeaidd
14 Medi: Cyfarwyddebau trafodaethau masnach yr UE-Japan yn cael eu gwneud yn gyhoeddus.
20 Medi: Araith gan yr Arlywydd Donald Tusk yng Nghynulliad Cyffredinol rhif 72 y Cenhedloedd Unedig.
21 Medi: Llythyr gan yr Arlywydd Donald Tusk i arweinwyr yr UE cyn eu cinio anffurfiol yn Tallinn.
25 Medi: Y Cyngor Materion Cyffredinol (Erthygl 50) Cymerodd y Cyngor, mewn fformat EU27, olwg ar gynnydd yn y trafodaethau Brexit.
Y Comisiwn Ewropeaidd
13 Medi: Anerchiad 2017 yr Arlywydd Jean-Claude Juncker ar Gyflwr yr Undeb. Ffeithlenni.
14 Medi: Blwyddlyfr rhanbarthol Eurostat 2017 - Sut mae fy rhanbarth yn wneud yn yr Undeb Ewropeaidd?
14 Medi: Cyflwr yr Undeb 2017 - Pecyn Masnach: Comisiwn yn datgelu mentrau ar gyfer polisi masnach cytbwys a blaengar; Comisiwn Ewropeaidd yn cynnig fframwaith ar gyfer sgrinio buddsoddiadau tramor uniongyrchol.
15 Medi: Cyflwr yr Undeb - Pecyn Democratiaeth: Cyllid Menter Dinasyddion a Phleidiau Gwleidyddol Ewropeaidd - Holi ac Ateb, Diwygio .
20 Medi: Ffeithlen: Goresgyn rhwystrau trawsffiniol i hybu twf yn rhanbarthau ffiniol yr UE.
21 Medi: Cytundeb masnach yr UE-Canada yn dod i rym.
21 Medi: Egwyddorion arweiniol ar gyfer y Ddeialog ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon .
21 Medi: Papurau safwynt: Gweithdrefnau Caffael Cyhoeddus Parhaus; Hawliau eiddo deallusol (gan gynnwys arwyddion daearyddol); Materion yn ymwneud â thollau sydd eu hangen ar gyfer ymadawiad trefnus y DU â'r Undeb; Defnyddio Data a Diogelu Gwybodaeth a Gaffaelwyd neu a Broseswyd cyn y dyddiad ymadael.
22 Medi: Datganiad gan Michel Barnier ar ôl araith y Prif Weinidog Theresa May yn Florence.
25 Medi: Agenda'r pedwerydd cylch o drafodaethau Erthygl 50 yr UE-DU.
Senedd Ewrop
13 Medi: Cyflwr y Genedl: Gadewch i ni fanteisio ar y momentwm i lunio dyfodol uchelgeisiol.
25 Medi: Ni ddylai Iwerddon dalu'r pris am Brexit, meddai Guy Verhofstadt.
25 Medi: Araith Guy Verhofstadt i Dŷ'r Oireachtas.
Newyddion
13 Medi: Efallai na wnaiff Aelod-wladwriaethau fabwysiadu mesurau brys ynghylch bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig oni bai ei bod yn amlwg bod risg ddifrifol i iechyd neu'r amgylchedd. (Llys Cyfiawnder Ewrop)
4. Datblygiadau yn y DU
Llywodraeth y DU
12 Medi: Datganiad y Prif Weinidog ar Fil yr UE (Ymadael).
12 Medi: Deddfwriaeth Brexit bwysig yn pasio Ail Ddarlleniad.
6 - 18 Medi: Papurau Partneriaeth y Dyfodol: Cydweithio ar wyddoniaeth ac arloesedd (datganiad i'r wasg ); Polisi tramor, amddiffyn a datblygu (datganiad i'r wasg); Diogelwch, gorfodi'r gyfraith a chyfiawnder troseddol (Datganiad i'r wasg).
18 Medi: Cynhadledd i'r wasg y Prif Weinidog gyda Justin Trudeau, Prif Weinidog Canada.
19 Medi: Araith y Prif Weinidog yn nerbyniad arweinwyr y Gymanwlad yn y Cenhedloedd Unedig.
20 Medi: Cyfarfod y Prif Weinidog â'r Arlywydd Trump yn y Cenhedloedd Unedig.
20 Medi: Araith Theresa May i Gynulliad Cyffredinol 2017 y Cenhedloedd Unedig.
21 Medi: Diwedd taith ddeuddydd y Gweinidog o Ogledd Ddwyrain Lloegr.
22 Medi: Araith Florence y Prif Weinidog: cyfnod newydd o gydweithrediad a phartneriaeth rhwng y DU a'r UE.
22 Medi: Cyfarfod y Prif Weinidog â'r Taoiseach Gwyddelig Leo Varadkar.
25 Medi: Pedwerydd cylch o drafodaethau Erthygl 50 y DU-UE: Rhaglen, Sylwadau agoriadol David Davis.
26 Medi: Cyfarfod y Prif Weinidog â Donald Tusk.
Tŷ’r Cyffredin
12 Medi: Dadl Neuadd San Steffan: Gwladolion y DU yn yr UE: Hawliau.
13 Medi: Yng nghwestiynau Gogledd Iwerddon, cwestiynau ar Brexit.
13 Medi: Cynhaliodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig sesiwn tystiolaeth lafar ar waith Defra gyda’r Ysgrifennydd Gwladol.
13 Medi: Mae'r Pwyllgor Iechyd wedi dechrau ymchwiliad i brinder staff nyrsio yn Lloegr.
14 Medi: Gwahoddodd y Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig dystiolaeth ar effaith bosibl trefniadau masnachu newydd â'r UE ar sectorau bwyd a ffermio'r DU ar ôl Brexit.
14 Medi: Mae Pwyllgor Materion Gogledd Iwerddon wedi ail-lansio'r ymchwiliad i ddyfodol ffiniau tir Iwerddon.
14 Medi: Bydd y Pwyllgor Ymadael â'r UE yn cynnal ymchwiliad i Fil yr UE (Ymadael). Bydd hefyd yn cynnal ymchwiliad i gynnydd y trafodaethau ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.
15 Medi: Dechreuodd y Pwyllgor Gweithdrefn ymchwiliad i Ymadael â’r UE: craffu ar ddeddfwriaeth neilltuedig .
18 Medi: Mae Cadeirydd Pwyllgor y Trysorlys wedi ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys ynghylch ymdrin â chontractau pensiynau ac yswiriant trawsffiniol a ysgrifennwyd cyn Brexit.
20 Medi: Y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn lansio ymchwiliad ar oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd ar fusnesau Prydain.
20 Medi: Y Pwyllgor Gweinyddu Cyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol i archwilio gallu Gwasanaeth Sifil o faint llai i weithredu diwygiadau Brexit.
21 Medi: Lansiodd y Pwyllgor Iechyd ymchwiliad i drefniadau rheoleiddio sydd eu hangen i sicrhau cyflenwad diogel ac effeithiol o feddyginiaethau, dyfeisiau a chynhyrchion meddygol ar ôl-Brexit .
21 Medi: Effaith Brexit ar amaethyddiaeth, masnach, ac ymchwiliad i ailwladoli pwerau wedi'i lansio gan y Pwyllgor Materion Cymreig.
25 Medi: Gwnaeth Hilary Benn, Cadeirydd y Pwyllgor Ymadael â'r UE, sylwadau ar araith y Prif Weinidog yn Florence.
Tŷ’r Arglwyddi
13 Medi: Cwestiwn ynghylch Brexit: Negodiadau.
14 Medi: Cwestiynau ynghylch Brexit: Gogledd Cyprus.
12 Medi: Yn ystod tystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Economaidd atebodd Canghellor y Trysorlys gwestiynau ar y cyfnod pontio posib ar ôl Brexit.
12 Medi: Is-Bwyllgor Cyfiawnder yr UE yn parhau â'i ymchwiliad i Brexit: hawliau diogelu defnyddwyr.
13 Medi: Brexit: Rhaid ystyried pryderon tiriogaethau tramor – Llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd oddi wrth Bwyllgor yr Undeb Ewropeaidd.
13 Medi: Academyddion yn rhoi tystiolaeth ar reoleiddio a goruchwylio ariannol – Is-bwyllgor Materion Ariannol yr UE.
13 Medi: Holodd Is-bwyllgor Ynni ac Amgylchedd yr UE arbenigwyr ar oblygiadau Brexit ar gyflenwad ynni Gogledd Iwerddon, ac ar ymadawiad arfaethedig y DU o Gytundeb Euratom.
13 Medi: Cymerodd Is-bwyllgor Materion Cartref yr UE dystiolaeth gan yr Adran Iechyd ac Ymddiriedolaeth Nuffield ar oblygiadau gofal iechyd cyfatebol Brexit.
14 Medi: Cymerodd Is-bwyllgor Materion Allanol yr UE dystiolaeth gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad fel rhan o’i ymchwiliad i Brexit: polisi sancsiynau.
14 Medi: Cynhaliodd Is-bwyllgor Marchnad Fewnol yr UE sesiynau tystiolaeth i lansio’i ymchwiliad newydd i Brexit: cystadleuaeth.
14 Medi: Mae'r Llywodraeth wedi ymateb i Adroddiad Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd ar Brexit: datganoli.
14 Medi: Gwahoddodd y Pwyllgor Cyfansoddiad gyfraniadau i'w ymchwiliad i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).
19 Medi: Ysgrifennodd Cadeirydd Is-Bwyllgor Marchnad Fewnol yr UE at y llywodraeth am ei hymateb i adroddiad y pwyllgor Brexit: masnachu mewn gwasanaethau anariannol.
26 Medi: Lansiodd Pwyllgor yr Undeb Ewropeaidd ymchwiliad newydd i Brexit: bargen neu ddim bargen.
5. Yr Alban
Senedd yr Alban
Diweddariadau Brexit Senedd yr Alban: 14 Medi; 20 Medi.
14 Medi: Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Negodiadau) - Sesiwn dystiolaeth ar drafodaethau ymadael erthygl 50 a rôl Llys Cyfiawnder Ewrop a'r opsiynau ar gyfer datrys anghydfodau ar ôl Brexit.
Llywodraeth yr Alban
12 Medi: EU Withdrawl Bill - dywed Llywodraeth yr Alban y dylid amddiffyn datganoli.
14 Medi: Cymorth PAC yn y dyfodol - Ewing: Cynllunio ar gyfer y dyfodol bron yn amhosibl.
19 Medi: Amddiffyn datganoli - Cyfiawnder, ffermio, pysgota, yr amgylchedd a rheilffyrdd ymysg y "rhestr cipio pŵer".
24 Medi: Mae eglurder ar y Bil Brexit yn hanfodol.
25 Medi: Rhaid diogelu datganoli - Trafodaethau Bil Ymadael â'r UE yn parhau.
6. Gogledd Iwerddon
Mae'r Cynulliad wedi cyhoeddi Materion yr UE: Ffocws ar Negodi BREXIT, sy'n cynnwys crynodeb o safbwyntiau Llywodraeth y DU, y Cyngor Ewropeaidd a Senedd Ewrop yn y trafodaethau perthnasol.
7. Cysylltiadau rhwng y DU ac Iwerddon
21 Medi: Cyfarfod Arbennig o'r Cyd-bwyllgor ar Faterion yr Undeb Ewropeaidd gyda'r Cyd-bwyllgor ar Faterion Tramor a Masnach, ac Amddiffyn a'r Cydbwyllgor ar Weithredu Cytundeb Gwener y Groglith, Ymgysylltu â Mr Guy Verhofstadt ASE, Cydlynydd Brexit Senedd Ewrop.
25 Medi: Y Taoiseach Leo Varadkar yn cwrdd â’r Prif Weinidog May yn Llundain.
26 Medi: Dadl ddeuddydd ar Ymadawiad y DU â'r UE.
8. Adroddiadau a gyhoeddwyd
Juncker, Ewrosgeptigiaeth a’r mochyn cwta: sut mae Ewropeaid eraill yn asesu peryglon gadael yr UE (Blog Brexit LSE)
With or without you….? Bil Ymadael â’r UE, y gweinyddiaethau datganoledig a chydsyniad deddfwriaethol (Blogiau Brexit Cymru)